Symbols

arglwydd wyth prif gaer 'Lord of eight chief fortresses': unknown. Anhysbys.
asen 'The ass': a common prophetic symbol, which often denotes Richard II, king of England 1377–99, in English prophecies. Symbol proffwydol cyffredin, sy'n aml yn dynodi Rhisiart II, brenin Lloegr 1377–99, mewn proffwydoliaethau Seisnig.
baedd fforest Winsor 'The boar of the forest of Windsor': another name for the 'coronog faban' in poem 12. Enw arall am y goronog faban yng ngherdd 12.
baedd o hil Gynan 'A boar of the lineage of Cynan': a son of prophecy, perhaps descended from the princes of Gwynedd. Mab darogan sy'n disgyn o dywysogion Gwynedd, efallai.
brân A crow or raven, one of many symbols used to represent a hero, redeemer or son of prophecy; it is particularly associated with the ruling dynasty of Deheubarth and their descendants, notably Sir Rhys ap Thomas of Abermarlais. Symbol am arwr, gwaredwr neu fab darogan; fe'i cysylltir yn arbennig â llinach tywysogion Deheubarth a'u disgynyddion, megis Syr Rhys ap Thomas o Abermarlais.. tair brân
brenin ei oruchafiaeth 'The king of his supremacy': another name for the 'coronog faban' in poem 12. Enw arall am y goronog faban yng ngherdd 12.
brenin gwas 'Boy-king': unknown. Anhysbys.
brenin llew 'A lion king': a pseudonym for Llywelyn ab Iorwerth, prince of Gwynedd c. 1200–40. Ffugenw ar gyfer Llywelyn ab Iorwerth, tywysog Gwynedd c. 1200–40.
brenin na frenin 'A king who is not a king': a pseudonym that comes originally from the Latin prophecy known as ‘Prophetia Aquile’, where it refers to King Stephen. Ffugenw a ddaw'n wreiddiol o'r broffwydoliaeth o'r enw ‘Prophetia Aquile’, lle mae'n cyfeirio at y Brenin Steffan. mab Henri, lled-ynfyd frenin
carw The stag: one of many symbols used to represent a hero, redeemer or son of prophecy. Un o nifer o symbolau a ddefnyddir i gynrychioli arwr, gwaredwr neu fab darogan.
coch Normandi 'The red one of Normandy': a pseudonym for William Rufus, king of England 1087–1100. Ffugenw ar gyfer Gwilym Goch, brenin Lloegr 1087–1100.
dau ysgwydwyn Feli 'Two white-shielded men called Beli': unknown. Anhysbys.
draig The dragon, one of many symbols used to represent a hero, redeemer or son of prophecy; it is associated with the nation of the Welsh (the red dragon) or the English (the white dragon). Un o nifer o symbolau a ddefnyddir i gynrychioli arwr, gwaredwr neu fab darogan; fe'i cysylltir hefyd â chenedl y Cymry (y ddraig goch) a'r Saeson (y ddraig wen). y ddraig goch, y ddraig wen
dyfynnyn 'The summoned one'. 'Un a alwyd'.
ebol A foal: a symbol representing a young inexperienced person. Symbol sy'n cynrychioli rhywun ifanc dibrofiad.
eryr 'The eagle': a common prophetic symbol that denotes a hero. Symbol proffwydol cyffredin sy'n dynodi arwr. eryres
eryres 'The female eagle': a prophetic symbol for a female hero. Symbol proffwydol ar gyfer arwres. eryr
gŵr gwrthryn 'A man of opposition': probably a pseudonym for William the Conqueror, king of England 1066–87. Ffugenw ar gyfer Gwilym Goncwerwr, brenin Lloegr 1066–87, yn ôl pob tebyg.
gŵr o gudd 'A man from hiding': in early poetry, this may refer specifically to Cynan y Cŵn, king of Gwynedd 1000–3. Yn y cyfnod cynnar, efallai fod hyn yn cyfeirio'n benodol at Gynan y Cŵn, brenin Gwynedd 1000–3.
Gwyn Gwarther A traditional hero and a pseudonym for Owain Gwynedd, prince of Gwynedd 1137–70. Arwr traddodiadol a ffugenw ar gyfer Owain Gwynedd, tywysog Gwynedd 1137–70.
lled-ynfyd frenin 'A half-mad king': probably a pseudonym for King John. Ffugenw ar gyfer y Brenin John yn ôl pob tebyg. mab Henri, brenin na frenin
llew The lion: one of many symbols used to represent a hero, redeemer or son of prophecy. Un o nifer o symbolau a ddefnyddir i gynrychioli arwr, gwaredwr neu fab darogan. y llew gwyn, llewes
llewes The lioness, a symbol denoting a queen or other powerful woman. Symbol sy'n cynrychioli brenhines neu wraig rymus arall.
mab Henri 'Henry's son': a pseudonym, perhaps for King John. Ffugenw, efallai ar gyfer y Brenin John. brenin na frenin, lled-ynfyd frenin
maban 'Young boy': a word that is sometimes used to describe a prophesied redeemer. Gair a ddefnyddir weithiau i ddisgrifio mab darogan.
Serwen Wyn Possibly a pseudonym for Gruffudd ap Llywelyn, king of Gwynedd 1039–64. Efallai ffugenw ar gyfer Gruffudd ap Llywelyn, brenin Gwynedd 1039–64.
tair brân Perhaps Sir Rhys ap Thomas of Abermarlais, whose coat of arms featured three ravens. Syr Rhys ap Thomas o Abermarlais, efallai, am fod tair brân ar ei arfbais. brân
tarw The bull: one of many symbols used to represent a hero, redeemer or son of prophecy. Un o nifer o symbolau a ddefnyddir i gynrychioli arwr, gwaredwr neu fab darogan.
vrenin terfysgoedd ynys Brydain 'The king of the conflicts of the island of Britain': another name for the 'coronog faban' in poem 12. Enw arall am y goronog faban yng ngherdd 12.
y brenin gwyn bonheddig 'The noble fair king': another name for the 'coronog faban' in poem 12. Enw arall am y goronog faban yng ngherdd 12.
y brith cadarn 'The mighty freckled one': a pseudonym for Henry II, king of England 1154–89. Ffugenw ar gyfer Harri II, brenin Lloegr 1154–89.
y coronog faban 'The crowned boy': one of the most common names for the son of prophecy. Un o'r enwau mwyaf cyffredin am fab darogan.
y ddau ofuned 'The two promised ones': a reference to Cadwaladr and someone else, perhaps Cynan. Cyfeiriad at Gadwaladr a rhywun arall, efallai Cynan.
y ddraig goch The red dragon: a symbol representing the Welsh nation, and deriving from the prophecy of Myrddin (Emrys) to Vortigern. Symbol sy'n cynrychioli'r Cymry fel cenedl, ac sy'n tarddu o broffwydoliaeth Myrddin (Emrys) o flaen Gwrtheyrn.
y ddraig wen The white dragon: a symbol representing the English as a nation, and deriving from the prophecy of Myrddin (Emrys) to Vortigern. Symbol sy'n cynrychioli'r Saeson fel cenedl, ac sy'n tarddu o broffwydoliaeth Myrddin (Emrys) o flaen Gwrtheyrn.
y gath (fraith/las) 'The (speckled/grey) cat': a prophetic symbol associated with a serpent's tail and the East, and later with the name Mary. Symbol proffwydol a gysylltir â chynffon sarff a'r Dwyrain ac, yn ddiweddarach, a'r enw Mair
y gwyn gwan 'The weak white one': possibly a pseudonym for Stephan, king of England 1135–54. Efallai ffugenw ar gyfer Steffan, brenin Lloegr 1135–54.
y llew gwyn 'The white lion': perhaps representing a member of the Herbert family, whose coat of arms featured three lions rampant argent. Efallai fod y symbol hwn yn cynrychioli aelod o deulu'r Herbertiaid, am fod tair llew arian rampant ar eu harfbais. llew
y llwynog A symbol for a cunning or wily person, or perhaps for Bishop Edward Fox (1496–1538). Symbol am rywun cyfrwys neu ystrywgar, neu am yr Esgob Edward Fox, efallai (1496–1538)..
y mab a ladd [...] 'The boy who kills his own mother / kills himself'; perhaps Edward VI or Henry VIII. Ffigur proffwydol sy'n llad ei fam neu'n ei ladd ei hun; efallai Edward VI neu Harri VIII.
y macwy dau hanner 'The youth of two halves': a prophetic pseudonym; perhaps it refers to Dafydd ap Llywelyn in 'Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei Chwaer'. Ffugenw proffwydol; efallai ei fod yn cyfeirio at Ddafydd ap Llywelyn yn 'Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei Chwaer'.
y tywysog darogan 'The prince of prophecy'; perhaps Edward VI in poem 12. Mab darogan o dywysog; efallai Edward VI yng ngherdd 12.
ych The ox usually represents Jasper Tudur, who figuratively prepared the ground for his nephew Henry Tudur, just as the ox would plough the land for sowing crops. Mae'r ych yn cynrychioli Siasbar Tudur fel arfer, am iddo baratoi'r tir ar gyfer ei nai Harri Tudur megis ych yn aredig.