| Ffurf safonol | Diffiniad Cymraeg | Diffiniad Saesneg | Ffynonnellau allanol | Cyfeiriad | Gweler hefyd | 
            
            
             
                | Addaf/Adam | Y dyn cyntaf. | The first man. |  |  |  | 
            
             
                | Aeddan Gafran | Aedán mhac Gabráin, a deyrnasodd dros Dál Riata c. 547–c. 606/8. | Aedán mhac Gabráin, who reigned over the kingdom of Dál Riata c. 547–c. 606/8 | https://www.dib.ie/biogr… |  |  | 
            
             
                | Anarawd ap Rhodri | Mab Rhodri Mawr a brenin Gwynedd o 878 hyd at ei farwolaeth yn 916. | Son of Rhodri Mawr and king of Gwynedd from 878 to his death in 916. |  |  |  | 
            
             
                | Arthur | Brenin chwedlonol. | A legendary king. |  |  |  | 
            
             
                | Bardd Adda | Bardd a daroganwr yr ymddengys iddo gael ei uniaethu ag Adda Fras, bardd o'r 13g/14g. | A prophetic poet apparently identified with the 13th/14th century poet Adda Fras. | https://bywgraffiadur.cy… |  |  | 
            
             
                | Beli ap Rhun | Mab Rhun Hir. | Son of Rhun Hir. |  |  |  | 
            
             
                | Beli Hir | Mab darogan y Cymry. | A prophesied deliverer of the Welsh. |  |  |  | 
            
             
                | Brithwr, Brithwyr | Pict, Pictiaid: trigolion gogledd yr Alban yn yr Oesoedd Canol cynnar | Pict, Picts: inhabitants of northern Scotland in the early Middle Ages |  |  |  | 
            
             
                | Brython / Brythoniaid | Brythoniaid, weithiau Cymry | Britons, sometimes the people of Wales |  |  |  | 
            
             
                | Cadafael | Anhysbys. | Unknown. |  |  |  | 
            
             
                | Cadfan ab Iago | Brenin Gwynedd yn hanner cyntaf y seithfed ganrif. | King of Gwynedd in the first half of the seventh century. | https://bywgraffiadur.cy… |  |  | 
            
             
                | Cadwaladr (mab darogan) | Mab darogan a ddaw i arwain y Cymry i fuddugoliaeth dros y Saeson. | A prophesied hero who will come to lead the Welsh to victory over the English. |  |  | Cadwaladr ap Cadwallon | 
            
             
                | Cadwaladr ap Cadwallon | Brenin Gwynedd a fu farw mewn pla naill ai yn 664 neu tua 683. | King of Gwynedd who died in a plague either in 664 or around 683. |  |  | Cadwaladr (mab darogan) | 
            
             
                | Cadwallon ap Cadfan | Brenin Gwynedd (m. 634). | King of Gwynedd (d. 634). |  |  |  | 
            
             
                | Cato | Dionysius Cato, awdur Catonis Disticha, a gyfieithiwyd i Gymraeg erbyn tua 1300. | Dionysius Cato, author of Catonis Disticha, which had been translated into Welsh by about 1300. |  |  |  | 
            
             
                | Cedfyw | Enw personol nad yw'n digwydd tu hwnt i 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin' | A personal name that does not appear beyond 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin' |  |  |  | 
            
             
                | Culfardd | Bardd chwedlonol a ystyrid yn gyfoeswr i Fyrddin a Thaliesin | A legendary poet considered to be a contemporary of Myrddin and Taliesin |  |  |  | 
            
             
                | Cwsg-fardd | Bardd chwedlonol y gellid ei uniaethu â'r Bardd Cwsg | A legendary poet probably to be equated with Y Bardd Cwsg |  |  |  | 
            
             
                | Cymry | Pobl Cymru | The people of Wales |  |  |  | 
            
             
                | Cynan (mab darogan) | Mab darogan a ddaw i arwain y Cymry i fuddugoliaeth dros y Saeson. | A prophesied hero who will come to lead the Welsh to victory over the English. |  |  |  | 
            
             
                | Cynan ab Owain Gwynedd | Mab Owain Gwynedd; bu farw yn 1174. | A son of Owain Gwynedd; he died in 1174. |  |  | Cynan (mab darogan) | 
            
             
                | Cynan Dindaethwy | Mab Rhodri Molwynog a brenin Gwynedd (m. 816). | Son of Rhodri Molwynog and king of Gwynedd (d. 816). |  |  |  | 
            
             
                | Cynan y Cŵn | Mab Hywel ab Ieuaf a brenin Gwynedd o tua 1000 hyd at ei farwolaeth tua 1003. | Son of Hywel ab Ieuaf and king of Gwynedd from about 1000 to his death around 1003. |  |  |  | 
            
             
                | Cyndaf | Cymeriad proffwydedig y mae ei ddyfodiad yn rhagarwyddo Dydd y Farn. | A prophesied character whose coming presages Judgement Day. |  |  |  | 
            
             
                | Cyndur | Ansicr | Uncertain |  |  |  | 
            
             
                | Cynfelyn Drwsgl | Un o arwyr yr Hen Ogledd a gymerodd rhan, yn ôl rhai ffynonellau, ym mrwydr Arfderydd wrth ochr Gwrgi a Pheredur | One of the heroes of the Old North that took part, according to some sources, in the battle of Arfderydd alongside Gwrgi and Peredur | https://www.library.wale… |  |  | 
            
             
                | Deiniol ap Dunod Fawr | Deiniol ap Dunod Fawr (m. 584), sefydlydd honedig cadeirlan Bangor Fawr yn Arfon a Bangor-is-y-coed ar lannau afon Dyfrdwy | Deiniol ap Dunod Fawr (d. 584), purported founder of Bangor Fawr cathedral in Arfon and Bangor-on-dee in Wrexham County Borough. |  |  |  | 
            
             
                | Dewi | Dewi Sant | St David |  |  |  | 
            
             
                | Duw/God | Duw. | God. |  |  |  | 
            
             
                | Dywel ab Erbin | xxxxx | xxxxx |  |  |  | 
            
             
                | Einion | Ffigur hanesyddol anhysbys neu un o frodyr Myrddin. | Unknown historical figure or one of Myrddin's brothers. |  |  |  | 
            
             
                | Elgan Weflhwch | Unigolyn o'r 11g a gysylltir â Dyfed. | 11th C individual linked with Dyfed. | https://www.library.wale… |  |  | 
            
             
                | Eliffer Gosgorddfawr | Unigolyn o'r chweched ganrif a oedd â dau fab enwog, rhai a enwir Gwrgi a Pheredur fel arfer. | A sixth-century individual with two sons, usually called Gwrgi and Peredur | https://www.library.wale… |  |  | 
            
             
                | Errith | Enw anhysbys, o bosibl yn ddyfeisiedig. | Unknown name, perhaps invented. |  |  |  | 
            
             
                | Gloywedd | Cymeriad yn chwedl Myrddin. | A character in the legend of Myrddin. |  |  |  | 
            
             
                | Gruffudd ap Cynan | Brenin Gwynedd o 1099 hyd at ei farwolaeth yn 1137. | King of Gwynedd from 1099 to his death in 1137. |  |  |  | 
            
             
                | Gwasawg | Cymeriad pwysig yn chwedl Myrddin; efallai gŵr Gwenddydd. | An important character in the legend of Myrddin; perhaps the husband of Gwenddydd. | https://www.library.wale… |  |  | 
            
             
                | Gwenabwy | Arwr chwedlonol anhysbys | Unknown legendary hero |  |  |  | 
            
             
                | Gwenddolau | Gwenddolau ap Ceidio. Arglwydd Myrddin, a laddwyd ym mrwydr Arfderydd. | Gwenddolau ap Ceidio. Myrddin's lord, who was killed in the battle of Arfderydd | https://www.library.wale… |  |  | 
            
             
                | Gwenddydd | Chwaer Myrddin. | Myrddin's sister. | https://www.library.wale… |  |  | 
            
             
                | Gwenhwyfar | Gwraig Arthur. | Arthur's wife. |  |  |  | 
            
             
                | Gwgon | Ffigur hanesyddol anhysbys neu un o frodyr Myrddin. | Unknown historical figure or one of Myrddin's brothers. |  |  |  | 
            
             
                | Gwrrith | Enw anhysbys, o bosibl yn ddyfeisiedig. | Unknown name, perhaps invented. |  |  |  | 
            
             
                | Gwyddyl | Gwyddelod. Pobl o Iwerddon neu siaradwyr yr iaith Wyddeleg. | Irish people. People from Ireland or Irish speakers |  |  |  | 
            
             
                | Gwynllyw | Eponym cantref Gwynllwg. | The eponym of the cantref called Gwynllwg. |  |  |  | 
            
             
                | Harri (ffigur brudiol) | Naill ai Harri Tudur (Harri VII) neu HarriVIII, mae'n debyg. | Probably either Henry Tudor (Henry VII) or Henry VIII. |  |  | Harri (Tudur/VII) | 
            
             
                | Harri (Tudur/VII) | Harri Tudur (1457 - 1509); fel mab darogan neu frenin Lloegr. | Henry Tudor (1457 - 1509); as son of prophecy or reigning king. | https://bywgraffiadur.cy… |  | Harri (ffigur brudiol) | 
            
             
                | Henri | Un o'r brenhinoedd o'r enw 'Henry', mwy na thebyg Harri I neu Harri II | One of the kings named Henry, likely Henry I or Henry II |  |  | Henry I | 
            
             
                | Henry I | Brenin Lloegr 1100–35. | King of England 1100–35. |  |  |  | 
            
             
                | Hiriell | Arwr chwedlonol a gysylltir â gogledd-orllewin Cymru | Legendary hero associated with north-west Wales |  |  |  | 
            
             
                | Hywel ap Cadwal | Anhysbys; brenin Gwyned yn ôl 'Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei Chwaer'. | Unknown; king of Gwynedd according to 'Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei Chwaer'. |  |  |  | 
            
             
                | Hywel Dda | Mab Cadell ap Rhodri a brenin Dyfed o 909 yn ogystal â Gwynedd o 942 hyd at ei farwolaeth yn 950. | Son of Cadell ap Rhodri and king of Dyfed from 909 as well as Gwynedd from 942 to his death in 950. |  |  |  | 
            
             
                | Iago ab Idwal ap Meurig | Taid Gruffudd ap Cynan a brenin Gwynedd 1033–9. | Grandfather of Gruffudd ap Cynan and king of Gwynedd 1033–9. |  |  |  | 
            
             
                | Iago ap Beli | Mab Beli ap Rhun; bu farw tua 615. | Son of Beli ap Rhun; he died around 615. |  |  |  | 
            
             
                | Iddas | Jwdas Iscariot. | Judas Iscariot. |  |  |  | 
            
             
                | Idwal Iwrch | Mab Cadwaladr ap Cadwallon. | Son of Cadwaladr ap Cadwallon. |  |  |  | 
            
             
                | Iesu/Jesus | Iesu Grist. | Jesus Christ. |  |  |  | 
            
             
                | Ioan | Y Brenin Ioan (1166–1216) | King John (1166–1216) |  |  |  | 
            
             
                | Llewelyn | Ffigur hanesyddol anhysbys neu un o frodyr Myrddin. | Unknown historical figure or one of Myrddin's brothers. |  |  |  | 
            
             
                | Lloegr | (Pobl) Lloegr | (People of) England |  |  | Lloegrwys | 
            
             
                | Lloegrwys | Gwŷr Lloegr | The men of 'Lloegr' (England) |  |  |  | 
            
             
                | Llŷr | Llŷr Llediaith, tad Branwen, Brân a Manawydan, a’r brenin Leir y ceir ei hanes gan Sieffre o Fynwy. | Either Llŷr Llediaith, the father of Branwen, Brân and Manawydan, or the Leir whose story is told by Geoffrey of Monmouth. | https://www.library.wale… | WCD 455 |  | 
            
             
                | Llywelyn | Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) (c. 1173–1240) | Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn the Great) (c. 1173–1240) |  |  |  | 
            
             
                | Llywelyn | Un o nifer o dywysogion Cymreig o'r enw hwn. | One of the many Welsh princes of this name. |  |  | Llywelyn | 
            
             
                | Maelgwn Gwynedd | Brenin Gwynedd tua hanner cyntaf y chweched ganrif. | King of Gwynedd around the first half of the sixth century. | https://bywgraffiadur.cy… |  |  | 
            
             
                | Mair (ffigur brudiol) | Enw a gysylltir weithiau â'r 'gath fraith'. | A name sometimes connected with the 'cath fraith'. |  |  |  | 
            
             
                | Mair (Mari Tudur) | Mari I, merch Harri VIII ac olynydd ei brawd Edward VI. | Mary I, daughter of Henry VIII, who reigned after her brother Edward VI.udor |  |  |  | 
            
             
                | Medrod | Nai Arthur a'r gwrthwynebwr iddo ym mrwydr Camlan. | Arthur's nephew and opponent at the battle of Camlan. |  |  |  | 
            
             
                | Meiddwg | Mam Myrddin. | Myrddin's mother. |  |  |  | 
            
             
                | Merfyn Frych | Brenin Gwynedd o tua 826 hyd at ei farwolaeth yn 844. | King of Gwynedd from about 826 to his death in 844. |  |  |  | 
            
             
                | Mordaf | Brawd Myrddin a Gwenddydd o bosibl. | Possibly a brother of Myrddin and Gwenddydd. |  |  |  | 
            
             
                | Morfryn | Tad Myrddin. | Myrddin's father. |  |  |  | 
            
             
                | Morgan Fawr ap Sadyrnin | Ansicr; brenin gogleddol yn ôl pob tebyg. | Uncertain; probably a northern king. |  |  |  | 
            
             
                | Morgenau | Brawd Myrddin a Gwenddydd o bosibl. | Possibly a brother of Myrddin and Gwenddydd. |  |  |  | 
            
             
                | Morial | Brawd Myrddin a Gwenddydd o bosibl. | Possibly a brother of Myrddin and Gwenddydd. |  |  |  | 
            
             
                | Morien | Brawd Myrddin a Gwenddydd o bosibl. | Possibly a brother of Myrddin and Gwenddydd. |  |  |  | 
            
             
                | Myrddin | Myrddin ap Morfryn, a aeth yn wallgof ym mrwydr Arfderydd ac a ffodd i Goed Celyddon, lle dechreuodd broffwydo; hefyd y 'mab heb dad' o Gaerfyrddin a broffwydodd i Wrtheyrn ac a gynnorthwyodd beri genedigaeth y Brenin Arthur. | Myrddin ap Morfryn, who went mad in the battle of Arfderydd and fled to Coed Celyddon, where he began prophesying; also the 'boy without a father' from Carmarthen who prophesied to Vortigern and helped bring about the birth of King Arthur. | https://www.library.wale… | WCD 562-71 |  | 
            
             
                | Norddmyn | Llychlynwyr neu Normaniaid | Vikings or Normans |  |  |  | 
            
             
                | Óðinn | Duw Llychlynnaidd. | A Scandinavian god. |  |  |  | 
            
             
                | Owain (mab darogan) | Mab darogan y Cymry. | A prophesied deliverer of the Welsh. |  |  |  | 
            
             
                | Rhiwallon | Ffigur hanesyddol anhysbys (efallai Rigullon, un o wyrion Aedán mhac Gabráin, neu Riguallan mac Conaing (m. 629)) neu un o frodyr Myrddin | Unknown historical figure (possibly Rigullon, one of Aedán mhac Gabráin's grandsons, or Riguallan mac Conaing (d. 629)) or one of Myrddin's brothers |  |  |  | 
            
             
                | Rhodri Mawr | Mab Merfyn Frych a brenin Gwynedd o 844 hyd at ei farwolaeth yn 878. | Son of Merfyn Frych and king of Gwynedd from 844 to his death in 878. |  |  |  | 
            
             
                | Rhodri Molwynog | Mab Idwal Iwrch a brenin Gwynedd (m. tua 754). | Son of Idwal Iwrch and king of Gwynedd (d. about 754). |  |  |  | 
            
             
                | Rhun Hir | Mab Maelgwn Gwynedd a brenin Gwynedd. | Son of Maelgwn Gwynedd and king of Gwynedd. |  |  |  | 
            
             
                | Rhydderch Hael | Brenin Alclud (Dumbarton) yn ail hanner y chweched ganrif. | King of Alclud (Dumbarton) in the second half of the sixth century. | https://bywgraffiadur.cy… |  |  | 
            
             
                | Rhys | Rhys ap Tewdwr (m. 1093), brenin Deheubarth | Rhys ap Tewdwr (d. 1093), king of Deheubarth |  |  |  | 
            
             
                | Rhys Undant | Ansicr | Uncertain |  |  |  | 
            
             
                | Romani | Rhufeinwyr | Romans |  |  |  | 
            
             
                | Saeson | Pobl Lloegr, weithiau Sacsoniaid | People of England, sometimes Saxons |  |  | Lloegrwys | 
            
             
                | Stinan/Justinian | Sant a gysylltir â Llanstinan, ger Abergwaun, ac â chapeli ger Tyddewi ac ar Ynys Dewi. | A saint associated with Llanstinan, near Fishguard, and with chapels near St Davids and on Ramsey Island. |  |  |  | 
            
             
                | Taliesin | Bardd cynnar pwysig a oedd yn byw yn amser Maelgwn Gwynedd (y chweched ganrif) yn ôl yr Historia Brittonum. | A major early poet who lived in the time of the 6th-century king Maelgwn Gwynedd according to the Historia Brittonum. | https://www.library.wale… | WCD 678-83 |  | 
            
             
                | Tangwystl | Tangwystl ferch Llywarch Goch (diwedd y ddeuddegfed ganrif), gordderch Llywelyn ab Iorwerth, neu Dangwystl ferch Iago (diwedd yr unfed ganrif ar ddeg), proffwyd Gruffudd ap Cynan. | Tangwystl ferch Llywarch Goch (late twelfth century), Llywelyn ab Iorwerth’s mistress, or Tangwystl ferch Iago (late eleventh century), prophet to Gruffudd ap Cynan. |  |  | Gruffudd ap Cynan | 
            
             
                | Tydoch | Nawddsant hen fynachlog Llandudoch. | The patron saint of the old monastery of St Dogmaels. |  |  |  | 
            
             
                | Urien Rheged | Brenin Rheged yn y Gogledd tua ail hanner y chweched ganrif. | King of Rheged in the North around the second half of the sixth century. |  |  |  | 
            
             
                | Yswain | Enw ar sawl brenin Llychlynnaidd o’r ddegfed ganrif hyd y ddeuddegfed, e.e. Sweyn Forkbeard (963–1014) | The name of several Scandinavian kings between the tenth and twelfth centuries, e.g. Sweyn Forkbeard (963–1014) |  |  |  |